Fields of Isolation
Recently, I’ve been contemplating: What does silence look like?
In the countryside, silence may seem peaceful with open skies and soft hills, but for many farmers in North Wales, it often means loneliness, pressure, and unnoticed emotional struggles. This project will reveal these hidden truths. It will be a two year-long photography documentary that highlights the challenges faced by local farmers—those who provide for us while silently dealing with stress, solitude, and stigma. Through portraits, environmental shots, and shared stories (some anonymous), I aim to give voice to these experiences, focusing on the humanity behind them. This project goes beyond farming. It’s about respect, resilience, and the importance of truly listening to our farmers. If you are a farmer or know someone willing to talk with me, I welcome your contact.
Sometimes, a photograph's greatest impact is simply saying, “I see you.” / “Dwi’n dy weld di” That’s the purpose of Fields of Isolation.
Caeuau Unigrwydd
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn myfyrio: “Sut mae tawelwch yn edrych?”
Yn y wlad, gall tawelwch ymddangos yn heddychlon — gyda’r awyr agored a’r bryniau meddal — ond i lawer o ffermwyr yng Ngogledd Cymru, mae’n aml yn golygu unigrwydd, pwysau, a brwydrau emosiynol sydd heb eu cydnabod. Bydd y prosiect hwn yn datgelu’r gwirioneddau cudd hyn. Bydd yn brosiect dogfen ffotograffig dros gyfnod o ddwy flynedd, yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu ffermwyr lleol — y rhai sy’n darparu i ni tra’n delio’n dawel â straen, unigedd a stigma. Trwy bortreadau, lluniau amgylcheddol, a straeon wedi’u rhannu (rhai’n ddienw), fy nod yw rhoi llais i’r profiadau hyn, gan ganolbwyntio ar y ddynoliaeth sydd y tu ôl iddynt. Mae’r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i ffermio. Mae’n ymwneud ag urddas, gwydnwch, a phwysigrwydd gwrando’n wirioneddol ar ein ffermwyr. Os ydych chi’n ffermwr neu’n adnabod rhywun sydd â diddordeb mewn siarad â mi, byddwn yn falch iawn o glywed gennych.
Weithiau, effaith fwyaf llun yw dweud: “Dwi’n dy weld di.” a dyna yw pwrpas Caeau Unigrwydd.